Gŵyl Gopr 2007
24 a 25 Awst 2007 - Roedd trefnwyr Copperfest wrth eu boddau â’r ymateb a gafwyd i’w cymysgfa o gerddoriaeth a hwyl. Dywedodd y trefnwyr ‘Roedd yn wych edrych allan o’r llwyfan a gweld cymaint o bobol wrth eu boddau - dim ond môr o wynebau’n gwenu roeddem ni’n ei weld.
Pan wnaethon ni benderfynu trefnu’r ŵyl, fe welwyd cyfle i gael parti mawr, dod â phobl i mewn i Amlwch a chael cymaint o hwyl’. Erbyn nos Sadwrn, amcangyfrifwyd fod cynulleidfa o tua 1500 yno - llawer mwy na’r hyn a ddisgwyliwyd, a daeth dros 2000 yn ystod y penwythnos.
Daeth y penwythnos i ben nos Sadwrn gyda pherfformiad bywiog gan Celt - bu’n benwythnos o berfformiadau amrywiol gan grwpiau o The Banjo Brothers i’r grŵp Cymraeg poblogaidd Frizbee. Roedd Baloo’s Band ar eu gorau yn chwarae cymysgfa o R’n’B a’r blues. Dywedodd y trefnwyr ‘Roeddem ni eisiau gwneud hon yn ŵyl i bawb - roeddem ni eisiau i bawb glywed rhywbeth roedden nhw yn ei fwynhau - p’run ai eu bod yn ffans o gerddoriaeth Gymraeg neu Saesneg, yn hen neu’n ifanc’. Bwriadwyd cynnal yr ŵyl er mwyn codi arian ar gyfer Gŵyl Llychlynwyr y flwyddyn nesaf, ond nawr efallai y daw yn ddigwyddiad blynyddol ar ei ben ei hun gyda threfnwyr yn addo ystyried y nifer o geisiadau gan bobol leol i drefnu bob dim eto'r flwyddyn nesaf. Am mwy o luniau, ewch i'r oriel yn fyma
24 a 25 Awst 2007
Bandiau nath chwarae yr Ŵyl 2007..........
Celt
Frizbee
Baloo's Band
Red Nature
ewch i'r oriel yn fyma






